Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-15-12 papur 6

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn – Ymweliad â Datblygiad Llys Enfys Linc Care (26 Ebrill 2012)

 

Cefndir

1.   Fel rhan o’r ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn, bu aelodau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ymweliad â datblygiad Llys Enfys Linc Care yn Llanisien, Caerdydd (26 Ebrill 2012).

 

2.   Yn ystod yr ymweliad cyfarfu aelodau’r Pwyllgor â chynrychiolwyr o blith staff Llys Enfys a Linc Cymru. Diben yr ymweliad oedd:

 

·         gweld – a dysgu mwy am  – y model byw’n annibynnol a fabwysiadwyd yn Llys Enfys; a

 

·         dysgu mwy am y cymysgedd o wasanaethau sy’n cael eu darparu drwy ddull tai integredig Llys Enfys, gan gynnwys cymorth a gofal personol, tai gwarchod ar gyfer pobl hŷn, a chymorth a llety arbenigol ar gyfer pobl â dementia ac oedolion ifanc anabl.

 

3.   Bu’r cyfleuster yn Llys Enfys yn weithredol ers 2012. Yn ystod yr ymweliad cyfarfu’r Aelodau a nifer o’r preswylwyr presennol.

 

4.   Mae’r papur hwn yn crynhoi’r pwyntiau allweddol a gododd yn ystod ymweliad y Pwyllgor.

Datblygiad Llys Enfys

Byw’n annibynnol a’r cymysgedd o wasanaethau

5.   Eglurodd cynrychiolwyr Linc Cymru wrth yr Aelodau fod cynllun byw’n annibynnol Llys Enfys yn galluogi pobl hŷn i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefu eu hunain, tra’u bod yn elwa o becynnau cymorth a gofal personol ar y safle. Gellir addasu’r holl becynnau gofal a chymorth fel y mae anghenion y preswylwyr yn newid a gellir eu darparu ar eu cyfer yn eu cartrefi eu hunain.

 

6.   Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y cynllun yn cynnwys 102 o fflatiau annibynnol , gyda chymysgedd o lety 1 ystafell wely ac, yn bennaf 2 ystafell wely. Mae 124 o breswylwyr yn byw yn Llys Enfys ar hyn o bryd, 60% mewn fflatiau deiliadaeth unigol a’r  40% sy’n weddill mewn fflatiau deiliadaeth ddwbl. Dywedodd staff Llys Enfys wrth y Pwyllgor fod penderfyniad gofalus wedi’i wneud i ddarparu mwy o fflatiau 2 ystafell wely nag o fflatiau 1ystafell wely er mwyn sicrhau y gall teulu ymweld ac aros, ac i barhau i fod yn hyblyg ar gyfer newidiadau demograffig yn y dyfodol (e.e pobl hŷn yn edrych ar ôl rhieni hyd yn oed yn hŷn neu fel arall). Mae ystafelloedd gwely ar gyfer gwesteion, yn ychwanegol at y rheini yng nghartrefi pobl, hefyd ar gael ar y safle.

 

7.   Cafodd y fflatiau eu cynllunio i fodloni anghenion yr amrywiol lefelau o gymorth, gan gynnwys:

·         60 fflat ar gyfer darpariaeth gofal ychwanegol, 7 o’r rheini wedi’u cynllunio a’u haddasu ar gyfer pobl hŷn sy’n colli’u cof neu sy’n dioddef o dementia ;

·         8 fflat ar gyfer oedolion ifanc anabl; a

·         34 fflat ar gael i bobl hŷn eu rhentu.

 

8.   Mae sefydliad penodedig ar gael ar y safle i ddarparu gofal personol i’r rheini sy’n cael eu hasesu ac sy’n bodloni meini prawf cymhwyster y cyngor. Cafodd datblygiad Llys Enfys ei gynllunio er mwyn caniatáu i’r gofal ar y safle gael ei addasu fel y mae anghenion y preswylwyr yn newid. Mae hyn gyda’r bwriad o sicrhau nad yw newid yn anghenion cymorth a gofal personol yn gorfod golygu o angenrheidrwydd, newid ffordd o fyw neu gyfeiriad preswylwyr. Mae ystafelloedd ymgynghori hefyd ar gael i’w defnyddio gan weithwyr iechyd proffesiynol a phreswylwyr.

Cyfleusterau a gweithgareddau  

9.   Ymwelodd yr Aelodau â’r amrywiol gyfleusterau sydd ar gael ar y safle gan gynnwys y siop, y golchdy, y siop trin gwallt a’r lolfa gymunedol, y bwyty a’r ardd. Darperir y cyfleusterau hyn er mwyn sicrhau y gall y preswylwyr gynnal eu hannibyniaeth heb orfod gadael yr adeilad, a gallant ddefnyddio cymysgedd o wasanaethau fel y bydd eu hangen.

 

10.        Mae pob llawr yn cynnwys ystafell weithgaredd ar gyfer unrhyw breswylwyr sy’n dymuno defnyddio cyfleusterau o’r fath - dangoswyd un ystafell i’r Aelodau lle’r oedd y preswylwyr wedi codi arian i brynu bwrdd pŵl. Dywedwyd wrthym hefyd fod gan Lys Enfys Bwyllgor Cymdeithasol gweithgar sy’n trefnu nifer o ddigwyddiadau rheolaidd. Mae’r preswylwyr hefyd yn weithgar o ran cynllunio a chynnal a chadw’r ardd mewn cydweithrediad â chontractwr garddio penodedig.

 

11.        Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd am y cysylltiadau bywiog y mae Llys Enfys a’i phreswylwyr yn eu cynnal â’r gymuned leol. Cynhaliwyd cyfarfodydd ynglŷn â pharc lleol yn ardal gymunedol Llys Enfys, a bu’r preswylwyr yn weithgar iawn gyda’r ymgyrchu dros lwybr bws yn yr ardal. Yn fwy eang, mae Llys Enfys hefyd yn cynnal cyfarfodydd a sgyrsiau ar gyfer nifer o sefydliadau’r trydydd sector gyda’r nod o wella gwybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth preswylwyr o gyflyrau  fel dementia.

Problemau synhwyraidd, cof a symudedd

12.        Eglurodd staff Linc Care hefyd fod cydweithio rhwng RNIB Cymru a Chymdeithas Alzheimer’s wedi sicrhau bod cynllun a dyluniad yr adeilad yn  ymarferol i denantiaid â phroblemau synhwyraidd, symudedd neu iechyd meddwl.

 

13.        Dangoswyd i aelodau’r Pwyllgor fod yr holl arwyddion wedi’u darparu mewn Braille ar gyfer preswylwyr â phroblemau golwg, ac roedd gan bob llawr yn yr adeilad thema lliw clir i gyfyngu ar y dryswch i’r rheini â phroblemau synhwyraidd neu gof. I’r rheini â symudedd cyfyngedig, roedd canllawiau ar gael drwy’r adeilad a darperir ystafell bwrpasol i breswylwyr adael eu cadeiriau a’u hoffer symudedd mewn amgylchedd diogel heb aflonyddu ar eu cartrefi eu hunain. Roedd ystafelloedd ymolchi a gynorthwyir hefyd ar gael o fewn Llys Enfys ynghyd â chortyn argyfwng ym mhob ystafell ym mhob fflat rhag ofn bod angen cymorth ar frys.

 

14.        Mae saith o fflatiau o fewn datblygiad Llys Enfys wedi’u cynllunio a’u haddasu ar gyfer pobl hŷn sy’n colli’u cof neu sy’n dioddef o dementia. Mae’r rhain yn cynnwys synwyryddion drws a llawr yn ogystal ag offer a all rybuddio staff o ddŵr sy’n gorlifo neu ddigwyddiadau eraill tebyg.

Ailalluogi

15.        Dywedwyd wrth y Pwyllgor, o brofiad gwaith Linc Cymru yn Llys Enfys, fod llawer (os nad y rhan fwyaf) o’r preswylwyr yn canfod fod angen llai o ofal a chymorth arnynt, ar ôl iddynt sefydlu yno, nag a fyddai wedi digwydd yn y gymuned. Roedd y staff yn awyddus i bwysleisio nad oedd heneiddio, o angenrheidrwydd, yn golygu mwy o ddibyniaeth, ac y gall unigolion adennill iechyd a gallu, yn ogystal â’u colli.

Staffio a hyfforddi

16.        Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Llys Enfys yn cael ei reoli gan staff Linc Care tra bod y gwasanaethau gofal yn cael eu darparu drwy ddarparwr penodedig ar y safle.

 

17.        Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff Linc Care sy’n gweithio ar y safle yn cael hyfforddiant rheolaidd gyda rhai’n dilyn hyfforddiant penodol mewn cyflyrau fel dementia.

Ariannu

18.        Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr arian cyfalaf ar gyfer datblygiad Llys Enfys wedi’i ddarparu drwy gyfuniad o grant tai cymdeithasol (56%) a chyllid preifat (44%). Mewn perthynas â’r elfen cyllid preifat, roedd 10 o’r 102 fflat wedi’u hariannu gan gronfeydd Linc Care gyda’r gweddill wedi’u codi ar y farchnad.

 

19.        Mae’r Ffioedd i breswylwyr yn amrywio, yn dibynnu ar anghenion gwahanol y preswylwyr. Mae trefniant tâl integredig ar waith lle gellir talu cyfran o ffioedd y preswylwyr drwy unrhyw fudd-dal tai neu gyllid awdurdod lleol y gallant fod yn gymwys i’w dderbyn.

 

20.        Gofynnodd yr Aelodau a roddwyd unrhyw ystyriaeth i werthu fflatiau o fewn y cyfadeilad ar y farchnad agored debyg i’r model McCarthy & Stone. Dywedodd staff Linc Cymru wrth yr Aelodau, er bod model o’r fath wedi ei ystyried, ni ystyriwyd hyn yn economaidd ymarferol oherwydd y diffyg diddordeb ar y farchnad yn y lleoliad penodol hwnnw.

 

21.        Rhoddwyd terfyn ar ddatblygu cyfleusterau gofal ychwanegol newydd o’r natur hwn gan Linc Cymru gan nad yw’r grant tai cymdeithasol bellach ar gael. Dywedodd staff Linc Cymru wrth yr Aelodau pe bai rhagor o grantiau ar gael, byddai rhagor o gyfleusterau o’r math hyn yn ddichonadwy a byddent yn cael eu datblygu gan y sefydliad.

Linc Cymru

22.        Cymdeithas dai ddielw yw Linc Cymru sy’n arbenigo yn y sectorau tai fforddiadwy, gofal cymdeithasol ac iechyd yng Nghymru.

 

23.        Linc Care yw un o ddau brif faes gwaith Linc Cymru (Linc Homes yw’r llall). Mae Linc Cymru’n darparu gwasanaethau byw’n annibynnol, gofal nyrsio, tai â chymorth a thai gwarchod. Mae gan Linc Cymru saith cynllun byw’n annibynnol ar draws Caerdydd, Casnewydd a Blaenau Gwent a thros 330 o fflatiau mewn rheolaeth. Mae gan Linc Care un cartref nyrsio a chynlluniau i ddatblygu dau gyfleuster arall o’r math hyn yn Ne Cymru.

 

24.        Fel sefydliad dielw, mynegodd Linc Cymru’r farn y byddai llais cryfach i’r sector dielw  - i’w glywed gan Lywodraeth Cymru  - yn gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau o’r math hyn i bobl hŷn yng Nghymru. Teimlwyd hefyd y byddai llwyfan lle gallent ddod ynghyd, o gymorth i rannu’r arferion gorau yn y maes hwn.